Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi Tanwydd 

11 Rhagfyr 2013

Ystafell Briffio’r Cyfryngau, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd 

Cofnodion

 

Yn bresennol:

 

Aelodau’r Cynulliad:

Mark Isherwood AC, Ceidwadwyr Cymreig (Cadeirydd)

Antoinette Sandbach AC, Ceidwadwyr Cymreig

 

Rhanddeiliaid:

Carole Morgan-Jones

Andrew Regan

Huw Roberts

Ian Thomas

Nick Speed

Shea Jones

Douglas Haig

Michael Anderson
Steve Woosey

Sue Purnell
Fern Leathers

Sean O’Neill

Craig Anderson

 

Ymddiheuriadau:

Graeme Francis

Simon Thomas AC

Meleri Wyn Davies

Mary van den Heuvel

Lia Murphy

Crispin Jones

 

Cofnodion y cyfarfod diwethaf

 

1.       Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod diwethaf. Nid oedd materion yn codi o’r cyfarfod.

 

2.       Croesawodd Mark Isherwood yr aelodau i’r cyfarfod o’r Grŵp Trawsbleidiol. Diolchodd i Fern Leathers o’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) am fod yn bresennol yn y cyfarfod i roi trosolwg o Adolygiad Hills a’r diffiniad newydd o dlodi tanwydd sy’n cael ei fabwysiadu yn Lloegr. Mae’r diffiniad 10% yn parhau i gael ei ddefnyddio yng Nghymru, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru gynlluniau i newid y diffiniad.   

 

3.       Ym mis Ebrill 2013, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru ffigurau ar raddfa tlodi tanwydd yng Nghymru gan ddefnyddio’r diffiniad 10%. Dangosai hwn fod 30% o gartrefi (neu 386,000 o ran nifer) yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd yn 2012, o’i gymharu â 26% yn 2008. Pwysleisiodd yr adroddiad hefyd fod buddsoddi mewn camau i arbed ynni wedi cynorthwyo i gadw 3% o gartrefi Cymru allan o dlodi tanwydd. Hefyd mapiwyd ffigurau tlodi tanwydd ar gyfer Cymru o dan y diffiniad terfynol yn Adolygiad Hills, a ddangosai bod 144,000 o gartrefi (11%) mewn tlodi tanwydd drwy Gymru o dan y diffiniad hwn yn 2012.   

 

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

 

4.       Amlinellodd Mark Isherwood y rheolau newydd a gyflwynwyd ar gyfer gweithredu Grwpiau Trawsbleidiol, ac y mae’n ofynnol bellach i gynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, a llunio adroddiad blynyddol a datganiad ariannol. Darparwyd copïau o’r adroddiad blynyddol i’r aelodau, ynghyd â datganiad ariannol ar gyfer 2012-13. Mae’r Grŵp Trawsbleidiol wedi clywed gan amrywiaeth eang o siaradwyr dros y flwyddyn ddiwethaf, yn sôn am Nest, am y Fargen Werdd a’r Rhwymedigaeth Cwmni Ynni, am newid cyflenwr ar y cyd, ac am ddull Monitro Tlodi Tanwydd y DU. 

 

Ethol Cadeirydd ac Ysgrifennydd

 

5.       Dywedodd Mark y byddai ef yn falch o barhau fel cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, y bu’n gadeirydd arno ers i’r Grŵp gael ei sefydlu yn 2009. Yn yr un modd, bod NEA Cymru a Dyfodol Defnyddwyr (Llais Defnyddwyr Cymru gynt) wedi darparu cymorth ysgrifenyddol ar gyfer y Grŵp, a byddent hwythau’n fodlon parhau yn y rôl hon. Gofynnodd Mark i’r aelodau a oeddent yn cefnogi ei ethol fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol, ac NEA Cymru a Dyfodol Defnyddwyr fel ysgrifenyddion ar y cyd ar gyfer y Grŵp.  Cymeradwywyd hyn gan yr aelodau. 

 

Tlodi tanwydd; fframwaith newydd - cyflwyniad gan Fern Leathers, Strategaeth Tlodi Tanwydd, Defnyddwyr a Chartrefi, Yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC)

 

6.       Rhoddodd Fern gyflwyniad ar y diffiniad newydd o dlodi tanwydd sy’n cael ei fabwysiadu yn Lloegr.  Amlinellodd Fern y cefndir i’r diffiniad newydd a’r adolygiad annibynnol a gomisiynwyd ym mis Mawrth 2011 gan yr Athro John Hills o’r London School of Economics. Roedd y cwestiynau allweddol a ystyriwyd yn ystod yr adolygiad yn cynnwys, a oedd tlodi tanwydd yn fater ar wahân; a oedd y diffiniad presennol yn gywir; a, sut y dylid mesur tlodi tanwydd. Nid oedd Adolygiad Hills yn dod i’r casgliad bod tlodi tanwydd ar wahân i dlodi yn fwy cyffredinol. 

 

7.       Y feirniadaeth o’r diffiniad 10% oedd, bod ffigurau tlodi tanwydd yn isel pan fydd prisiau ynni yn isel, ond yn uchel pan fydd prisiau ynni yn codi.  Roedd yn awgrymu hefyd bod bron hanner y boblogaeth yn byw mewn tlodi tanwydd, ac roedd yr adolygiad yn edrych a oedd yn rhoi darlun cywir o ran pwy sy’n byw mewn tlodi tanwydd.

 

8.       Canlyniad yr adolygiad oedd bod yr Athro Hills yn argymell y dylid mabwysiadu’r dull Incwm Isel Costau Mawr o weithredu, ble yr ystyrir bod cartref mewn tlodi tanwydd os bydd incwm y cartref, ar ôl talu costau’r tŷ, islaw’r llinell dlodi ar ôl addasu ar gyfer costau ynni, a’i fod yn wynebu costau ynni sy’n uwch na’r costau cyfartalog arferol. Mae’r dull Incwm Isel Costau Mawr yn darparu dangosyddion sy’n dangos graddfa’r tlodi tanwydd, a gaiff ei fesur gan y bwlch tlodi tanwydd, a’i arwyddocâd.  Cynhaliodd yr Adran Ynni a Newid Hinsawddymgynghoriad ar y dull gweithredu o ddewis ym mis Medi 2012. Mae wedi cael ei feirniadu ei fod yn ddiffiniad cymhleth ac anodd ei ddeall, ond yn gyffredinol, roedd yr aelodau’n cefnogi newid y diffiniad presennol.

 

9.       Ym mis Gorffennaf 2013, cadarnhaodd y Llywodraeth y bydd yn mabwysiadu’r dull newydd, a gwnaed newidiadau i’r Bil Ynni, i ddiweddaru Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000, fel bod modd gosod targed tlodi tanwydd newydd drwy is-ddeddfwriaeth. Cefnogir y targed newydd gan strategaeth tlodi tanwydd newydd, a bydd yr Adran Ynni a Newid Hinsawddyn ymgynghori ar y ffurf, y dyddiad, a lefel y targed newydd ar ôl i’r Bil Ynni gael Cydsyniad Brenhinol.  Mae dogfen fframwaith strategol yr Adran Ynni a Newid Hinsawddyn nodi sut y bydd y Llywodraeth yn defnyddio’r dangosydd Incwm Isel Costau Mawr newydd i helpu i wneud penderfyniadau polisi yn y dyfodol.

 

Cwestiynau

 

10.   Soniwyd bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Wneud y Gorau o ECO, gyda’r nod o wneud y defnydd gorau o incwm Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yng Nghymru.  

 

11.   Soniodd Antoinette Sandbach am gartrefi sy’n anodd eu gwella mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru, a phroblem landlordiaid sydd â llety clwm, lle nad oedd dim dull o drin y cartref ar hyn o bryd, oherwydd ei bod yn ofynnol i’r tenant gytuno ar y newidiadau.  Ychydig o ddewisiadau a oedd ar gael i gartrefi a oedd mewn ardaloedd oddi ar y grid, ar wahân i insiwleiddio a chlybiau olew. Awgrymwyd, efallai y gallai pobl mewn ardaloedd gwledig gael budd o’r diffiniad newydd, oherwydd byddent yn cael eu dynodi fel y cartrefi hynny sydd â bwlch tlodi tanwydd mawr. Roedd grantiau ar gael ar gyfer cysylltu â’r grid ond roedd nifer fawr o dai o hyd na allai gael eu cysylltu, a chynlluniau ardal a chynlluniau ynni adnewyddadwy oedd yr ateb yn hyn o beth.   

 

12.   Pwysleisiodd Huw Roberts fod angen canoli adnoddau ar y rhai sydd â’r angen mwyaf.  Mae nifer fawr o dai sy’n anodd eu cynhesu, ac sydd mewn cyflwr difrifol. Pwysleisiodd Fern mai nod y diffiniad newydd oedd targedu polisïau’n fwy effeithiol yn y dyfodol. Pwysleisiodd Huw fod angen gwneud gwaith trawsadrannol, yn benodol o ran addysg, ac awgrymodd Fern fod iechyd yn bwysig hefyd.   

 

13.   Awgrymwyd hefyd bod y diffiniad newydd yn gam tuag at roi blaenoriaeth uchel i gartrefi sy’n dlawd iawn o ran tanwydd.  

 

Dyddiad a phwnc ar gyfer y cyfarfod nesaf

 

14.   I’w gadarnhau.